Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) – Ystyriaeth Cyfnod 1
At:
Y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Oddi wrth:
Y Swyddfa
Ddeddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod: 30 Mai 2012
Diben
2. Ar 15 Mai 2012, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (‘y Pwyllgor’), gyda 5 Hydref 2012 fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno.
3. Ar 28 Mai 2012, cyflwynodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Bil a’r Memorandwm Esboniadol.
4. Darparwyd papur yn amlinellu diben a darpariaethau’r Bil ar wahân.
5. Rôl y Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt (Rheol Sefydlog 26.10). Nid oes unrhyw ofynion penodol mewn Rheolau Sefydlog sy’n llywodraethu’r ffordd y mae’r Pwyllgor yn gwneud y gwaith craffu hwn. Awgrymir dull isod, ynghyd â fframwaith awgrymedig y bydd y Pwyllgor yn gweithio oddi mewn iddo.
6. Ar ôl i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Os caiff yr egwyddorion cyffredinol eu cytuno, bydd Cyfnod 2 y broses yn golygu bod y Pwyllgor yn ystyried y Bil yn fanwl, gan gynnwys gwaredu gwelliannau (bwriedir i Gyfnod 2 ddigwydd yn ystod mis Tachwedd ar hyn o bryd).
Fframwaith awgrymedig
7. Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, awgrymir bod y Pwyllgor yn gweithio o fewn y fframwaith canlynol:
Ystyried:
8. Yn unol â’r dyddiad cau a nodwyd gan y Pwyllgor Busnes, bydd angen i’r pwyllgor gwblhau ei waith craffu ar y Bil a gosod ei adroddiad gerbron erbyn 5 Hydref 2012 fan bellaf.
9. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu naw wythnos o amser cyfarfod y Cynulliad i wneud y gwaith hwn, er y bydd yn rhaid ei wneud ochr yn ochr â’r gwaith polisi y cytunwyd arno eisoes gan y Pwyllgor. Mae’r Aelodau wedi cael y rhaglen waith ar gyfer y tymor hwn, sy’n cynnwys y slotiau a neilltuwyd ar gyfer craffu ar y Bil.
10. Awgrymir bod y Pwyllgor yn cytuno ar y dull canlynol —
§
Galwad gyffredinol am
dystiolaeth
Cyhoeddi
galwad gyffredinol am dystiolaeth, a fyddai’n cael ei hysbysu
i’r cyfryngau yng Nghymru a’i chyhoeddi ar wefan y
Cynulliad. Mae’r llythyr ymgynghori drafft a rhestr
o’r cwestiynau ymgynghori drafft ynghlwm yn Atodiad
1.
§
Gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig
Gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig gan sefydliadau ac
unigolion a ddewiswyd. Mae rhestr awgrymedig o ymgyngoreion ynghlwm
yn Atodiad 3.
§
Tystiolaeth lafar
Gwahodd rhanddeiliaid allweddol i roi tystiolaeth lafar mewn
cyfarfodydd yn y dyfodol (ochr yn ochr â’r ymarfer
ymgynghori). Mae rhestr dros dro o dystion o’r sectorau
perthnasol ynghlwm yn Atodiad 4.
§
Allgymorth
Defnyddio Tîm Allgymorth y Cynulliad i ymgysylltu ag adran
o’r cyhoedd er mwyn mesur barn ar y Bil.
11. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu cyfnod ymgynghori o ychydig dros bedair wythnos, rhwng 30 Mai a 29 Mehefin. Dylai hyn ganiatáu i’r Pwyllgor ystyried pa un ai i wahodd unrhyw dystion ychwanegol i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ai peidio, yn wyneb y dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd, er y byddai’r amserlen yn dynn iawn. Dylid nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar y Bil drafft yn ddiweddar a daeth i ben ym mis Mawrth 2012. Mae Atodiad 2 yn rhestru’r diwygiadau a wnaed i’r Bil ers y drafft gwreiddiol.
12. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd, yn ysgrifenedig ac yn llafar, yn helpu i lywio ystyriaeth y Pwyllgor o’r Bil a’i adroddiad dilynol.
13. Er gwybodaeth, mae’r Rheolau Sefydlog yn galluogi’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyflwyno adroddiad ar yr agweddau perthnasol ar y Bil.
14. Mae amserlen yn amgaeedig yn Atodiad 5 ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor.
15. Gwahoddir y Pwyllgor i:
§ gytuno ar y fframwaith y bydd yn gweithio oddi mewn iddo (fel yr amlinellir ym mharagraff 7);
§ cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 (fel yr amlinellir ym mharagraffau 8 – 13);
§ cytuno ar ymarfer ymgynghori pedair wythnos, y cwestiynau ymgynghori a rhestr o ymgyngoreion (Atodiad 1 ac Atodiad 2);
§ cytuno ar restr dros dro o dystion (Atodiad 4);
§ nodi’r amserlen ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor o’r Bil (Atodiad 5).
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Health and Social Care Committee |
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
30 Mai 2012 |
Annwyl Syr / Fadam
Ymgynghoriad ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Fel rhan o’i ystyriaethau Cyfnod 1, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). I gynorthwyo’i ystyriaethau, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.
Beth yw Bil?
Cyfraith ddrafft yw Bil. Unwaith y bydd Bil wedi cael ei ystyried a’i basio gan y Cynulliad ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf Cynulliad’.
Ceir proses pedwar cyfnod ar gyfer ystyried Bil. Yn ystod Cyfnod 1 bydd pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol Bil (sy’n cynnwys casglu tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan bartïon a rhanddeiliaid sydd â diddordeb) a bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.
Beth mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?
Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn datgan:
“Mae Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn gweithredu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru. Mae’r Bil yn creu gofyniad statudol ar awdurdodau bwyd i weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd (sy’n cynnwys sgorio busnesau bwyd a gorfodi’r cynllun) ac yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliadau. Bwriad y Bil yw sicrhau bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth am safonau hylendid bwyd busnesau bwyd yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy cytbwys ynghylch ble i fwyta neu siopa am fwyd.”
Beth yw swyddogaeth y pwyllgor?
Swyddogaeth y pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hynny, mae’r pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:
Ystyried:
i. yr angen am Fil i gyflwyno cynllun statudol ar gyfer sgorio hylendid bwyd yng Nghymru;
ii. a yw’r bil yn cyflawni’r dibenion a nodir;
iii. y darpariaethau allweddol a nodir yn y Bil ac a ydynt yn briodol i gyflawni’r dibenion a nodir;
iv. y rhwystrau posibl o ran gweithredu’r darpariaethau allweddol ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
v. a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy’n deillio o’r Bil;
vi. barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio gyda’r trefniadau newydd.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, hoffem gael eich barn ar y cwestiynau yn Atodiad 1. Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn bosibl eich bod wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar i ymateb i ymgynghoriad tebyg a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil drafft. Os ydych eisoes wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, mae croeso i chi gyflwyno’r ymateb hwnnw. Fodd bynnag, cofiwch fod y Bil wedi cael ei ddiwygio ychydig ers iddo gael ei ddrafftio’n wreiddiol a gwelir y newidiadau hyn yn Atodiad 2.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk a rhowch Ymgynghoriad – Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn y blwch Testun.
Neu ysgrifennwch at:
Claire Griffiths, Dirprwy Glerc
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai eich tystiolaeth ddod i law erbyn 29 Mehefin 2012. Efallai na fydd yn bosibl ystyried tystiolaeth a gawn er ôl y dyddiad hwn.
Wrth baratoi eich tystiolaeth, cofiwch y canlynol:
§ dylai eich ymateb drafod y materion sydd gerbron y Pwyllgor. Cyfeiriwch at eich ymateb drwy ddefnyddio’r teitl a nodir uchod;
§ mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad cyhoeddus fel bod modd i’r cyhoedd graffu arni ac mae’n bosibl y bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgorau. Os nad ydych am i’ch ymateb neu eich enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn eich tystiolaeth;
§ nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn; a
§ nodwch a ydych yn fodlon roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd tystiolaeth gan y rhai sydd ar y rhestr ddosbarthu atodedig (Atodiad 3). Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn.
Diogelu Gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Fay Buckle, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8041 neu â Claire Griffiths, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8019.
Yn gywir
Mark Drakeford AC / AM
Cadeirydd / Chair
Atodiad 1
Cwestiynau’r Ymgynghoriad
Cyffredinol
1. A oes angen Bil i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru? Esboniwch eich ateb.
2. A ydych yn credu bod y Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio, yn cyflawni’r amcanion a nodir fel y maent wedi’u nodi yn y Memorandwm Esboniadol? Esboniwch eich ateb.
3. A yw adrannau’r Bil yn briodol o ran cyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru? Os nad ydynt, sut mae angen newid y Bil?
4. Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a pha effaith a gaiff newidiadau o’r fath, os o gwbl?
5. Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Bil (os o gwbl) ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hynny?
Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth
6. Beth yw eich barn chi ar y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (sef offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau)?
Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried Adran 5 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl sy’n crynhoi’r pwerau a ddyrennir yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud gorchmynion a rheoliadau ac ati.
Goblygiadau Ariannol
7. Beth yw eich barn chi ar oblygiadau ariannol y Bil?
Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried Rhan 5 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif costau a manteision gweithredu’r Bil.
Sylwadau eraill
8. A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud ynghylch adrannau penodol o’r Bil?
Atodiad 2
Newidiadau a wnaed i’r Bil
(Dyfyniad o dudalen 13 y Memorandwm Esboniadol sy’n dod gyda’r Bil)
“33. Yn dilyn yr ymgynghoriad gwnaed rhai diwygiadau pwysig i’r Bil. Dyma nhw:
(a) mae busnesau sy’n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill bellach wedi’u cynnwys o fewn sgôp y cynllun;
(b) bydd y Bil yn berthnasol yn unig i fusnesau bwyd sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. Ni fydd sefydliadau busnes bwyd a gofrestrwyd y tu allan i Gymru ond sy’n masnachu dros dro yng Nghymru (h.y. masnachwyr symudol) o fewn sgôp y cynllun newydd;
(c) mae’n ofynnol i awdurdodau bwyd bellach baratoi rhaglen o arolygiadau o sefydliadau busnes bwyd yn eu hardal gan ystyried materion a bennir gan yr ASB - bydd y rhaglen yn penderfynu a oes angen arolygiad a pha mor aml y dylid cynnal yr arolygiadau hynny;
(d) cafwyd gwared ar y gofyniad i gadw’r dystysgrif hylendid bwyd, a’r tramgwydd cysylltiedig o beidio â’i chyflwyno i swyddog awdurdodedig ar gais;
(e) 21 diwrnod fydd y terfyn amser i fusnesau bwyd gyflwyno apêl bellach, a bydd awdurdodau bwyd hefyd yn cael 21 diwrnod i ystyried a phennu’r apêl - mae’r darpariaethau sy’n gysylltiedig ag apêl hefyd yn egluro nad oes gan weithredydd busnes bwyd yr hawl i apelio ymhellach yn dilyn penderfyniad awdurdod bwyd ar eu hapêl wreiddiol;
(f) mae’r darpariaethau mewn perthynas â’r hawl i ateb wedi’u gwneud yn fwy eglur a chafwyd gwared ar y terfynau amser o ran yr hawl i ateb; eglurwyd yn y Bil y gall yr hawl hon gael ei harfer fwy nag unwaith mewn perthynas ag unrhyw sgôr tra bydd y sgôr yn parhau’n ddilys;
(g) gwnaed y darpariaethau sy’n gysylltiedig ag arolygiadau ail-sgorio yn fwy eglur;
(h) mae’n ofynnol i awdurdodau bwyd roi gwybod i weithredydd sefydliad busnes bwyd am gostau arolygiadau ail-sgorio a’r modd y cafodd y costau eu cyfrifo cyn cynnal yr ail-sgorio;
(i) mae dyletswydd newydd ar fusnesau bwyd i ddatgelu
sgôr hylendid bwyd eu sefydliad ar lafar os bydd rhywun yn
gofyn iddynt, ac os gwrthodant wneud hynny mae’n dramgwydd
cysylltiedig - bydd hyn yn galluogi pobl â nam ar eu golwg neu
bobl sy’n gwneud ymholiadau dros y ffôn i gael gwybod
beth yw’r sgôr hylendid cyn defnyddio’r
sefydliad.”
Atodiad
3
Rhestr Ddosbarth
Awdurdodau Lleol
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Gwynedd
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Benfro
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir Gaerfyrddin
Sir y Fflint
Tor-faen
Wrecsam
Ynys Môn
Y Sector Gwirfoddol
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched
Mudiad Ysgolion Meithrin
Grwpiau Cynghori
Age Cymru
Anabledd Cymru
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)
Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru
Cyngor ar Bopeth Cymru
Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
Cyngor Gofal Cymru
Llais Defnyddwyr Cymru
RNIB Cymru – Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall
RNID Cymru – Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar
Wales TUC Cymru
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Sefydliadau Cynrychiadol
Aelodau Fforwm Rheoleiddwyr Cymru
Bar and Restaurant Foods Ltd
CBI Cymru
Consortiwm Manwerthu Prydain
Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Arlwywyr Cenedlaethol
Cymdeithas Arlwywyr Ysbytai
Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain
Cymdeithas Frechdanau Prydain
Cymdeithas Genedlaethol Gwarchodwyr Plant
Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd
Cymdeithas Lletygarwch Prydain
Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol
Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain
Cymdeithas Siopau Cyfleustra
Cynghrair Bwyd Cymru
Cynghrair Twristiaeth Cymru
Cyngor Adnewyddu'r Economi
Estyn
Ffederasiwn Busnesau Bach
Ffederasiwn Bwyd a Diod
Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd
Fforwm Gofal Cymru
Llais Defnyddwyr Cymru
Sefydliad Safonau Masnach Cymru
Sefydliad Tafarnwyr Prydain
Sefydliad y Merched Cymru
Siambrau Cymru
Llywodraeth / Llywodraeth Leol
Asiantaeth Safonau Bwyd
Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd
Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd (Cymru
Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Rheoleiddio Llywodraeth Leol
Y Swyddfa Masnachu Teg
Iechyd
Bwrdd Addysgu Iechyd Powys
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Iechyd y Cyhoedd
Canolfannau Cyfun Cymru ar gyfer Iechyd y Cyhoedd
Cyfadran Iechyd y Cyhoedd
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Atodiad 4
Awgrym o bobl/sefydliadau i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor:
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Llais Defnyddwyr Cymru
Ffederasiwn y Busnesau Bach
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd
Atodiad 5
Rhaglen waith
Dyddiad |
|
30 Mai 2012 |
11.50– 12:30: Trafodaeth ar y ffordd y bydd y Pwyllgor yn ystyried Cyfnod 1
|
20 Mehefin 2012 |
11.30 – 12.30: Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
|
12 Gorffennaf 2012 |
Bore
10.00 – 10:45 Sesiwn Dystiolaeth 1 10:45 – 11:30 Sesiwn Dystiolaeth 2 11:30 – 12:15 Sesiwn Dystiolaeth 3
|
Prynhawn
13:15 – 14:00 Sesiwn 1 14:00 – 14:45 Sesiwn 2 14:45 – 15:00 Cau pen y mwdwl |
|
18 Gorffennaf 2012 |
9.00 – 10.50: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a materion allweddol yn breifatreifat
|
Toriad yr haf |
|
27 Medi 2012
|
Ystyried yr adroddiad drafft yn breifat Hyfforddiant Cyfnod 2 yn breifat
|
3 Hydref 2012
|
Ystyried yr adroddiad drafft yn breifat (os na chytunir arno ar 27 Medi)
|